'Gwobr Goffa Hag Harris' - Gwahoddir ceisiadau.
Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn falch iawn o wahodd ceisiadau gan drigolion Llanbedr Pont Steffan a'r ardal gyfagos.
Mae'r wobr hon wedi'i sefydlu er cof am y diweddar Hag Harris a oedd yn Gynghorydd Tref Llanbedr Pont Steffan ac yn Gynghorydd Sir Ceredigion. Cynrychiolodd Lanbedr Pont Steffan mewn sawl swydd swyddogol, roedd yn gyflawnwr aruthrol o'r safon uchaf, ac yn unigolyn hynod boblogaidd ac adnabyddus.
Gan fod Hag yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac yn entrepreneur, felly gwahoddir ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno dilyn meysydd cerddoriaeth, busnes, addysg a hyfforddiant neu chwaraeon.
Meini prawf a nodiadau canllaw
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 - 30 oed
- Mae angen cefnogi ceisiadau gan ddyfarnwr sef rywun sy'n gallu cefnogi'r cais (e.e. athro, darlithydd, perchennog busnes, gweithiwr proffesiynol, cydweithiwr).
- Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir, hil a chredo.
- Gallai'r dyfarniad gael ei wario ar eitemau refeniw neu gyfalaf. Er enghraifft: prynu offer, ffioedd dysgu neu'r costau i fynychu cynhadledd. Byddai hyn yn cael ei benderfynu rhwng yr ymgeisydd llwyddiannus a'r panel dyfarnu.
- Dylai'r cais hefyd, lle bo hynny'n bosibl, nodi sut y byddai'r dyfarniad o fudd nid yn unig i'r unigolyn ond hefyd i eraill e.e., darparu hyfforddiant neu gefnogaeth i eraill.
- Gallai'r wobr hefyd gefnogi'r rhai sy'n cael eu henwebu fel rhai sy'n cyrraedd lefelau o gyflawniad uchel a/neu o gefndiroedd difreintiedig gan gynnwys profiad gofal neu ofalwyr.
- Os nad yw'r arian a ddyfarnwyd yn cael ei ddefnyddio oherwydd amgylchiadau annisgwyl, yna efallai y byddwn yn cadw'r hawl i ofyn i'w ddychwelyd.
- Byddwn yn disgwyl cael ein diweddaru'n rheolaidd ar gynnydd ac unrhyw newidiadau i'r cais gwreiddiol i sut roedd yr arian yn mynd i gael ei ddefnyddio.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 31 Awst 2026 drwy lenwi'r ffurflen sydd ar gael gan Cadi & Grace a Llyfyrgell Llanbed, neu cysylltch a'r clerc am gopi.
Anfonwch eich cais wedi'i gwblhau at Meryl Thomas, Clerc y Dref, Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan, Clerc y Dref, 7 Stryd Treherbert, Cwmann, Llanbedr Pont Steffan SA48 8EP neu e-bostiwch
CY
EN 