Pwyllgorau

Gwirfoddolwyr yw’r Cynghorwyr sy’n cynrychioli’r gymuned. Mae ganddynt ystod eang o brofiadau a gwahanol gefndiroedd ynghyd ag amrywiaeth o safbwyntiau gwleidyddol sy’n cyfoethogi’r Cyngor Tref!

Cynhelir cyfarfodydd llawn yn fisol sy’n cynnig cyfleoedd i drafod pob math o faterion yn lleol, yn sirol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a godir gan aelodau’r gymuned. Nôd y cyfarfodydd yw gweithio tuag at wella’r dref a’i gwneud yn fwy gwydn i ymdopi gyda’r heriau a osodir ar gymdeithas. Mae’r Cyngor Tref yn ymfalchïo ei bod yn gweithio trwy ddulliau  rhagweithiol, yn gweithio’n gadarnhaol ac yn gefnogol wrth gyflawni ei dyletswyddau dinesig.

Mae’r Cyngor Tref cyn cydweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion er sicrhau bod Llanbed hyn derbyn sylw ac yn rhan o brosiectau sirol a chenedlaethol, sy’n canolbwyntio ar adfywio cymunedau yng Nghymru. Mae’r Cynghorwyr yn aelodau o nifer o bwyllgor (gweler isod) sy’n adrodd yn ôl i’r Cyngor Tref lawn.

Mae’r pwyllgorau yn gwneud gwaith ‘caib a rhaw’ y Cyngor Tref a gellir dod i wybod ychwaneg am waith, cynlluniau a gweledigaeth bresennol y Cyngor Tref trwy ymweld gyda’r wefan.

Cewch yno agenda, cofnodion a’r dogfennau sy’n berthnasol i’r Cyngor Tref. Mae croeso i’r cyhoedd ddod i gyfarfodydd misol llawn y Cyngor Tref.

Pwyllgor Gweinyddiaeth, Cyllid a Cynllinio

  • (Cadeirydd) Maer, Cyng. Gabrielle Davies

  • Dirprwy Faer, Cyng. Helen Thomas

  • Cyng. Ann Bowen Morgan

  • Cyng. Rhys Bebb Jones

  • Clerc y Dref

Caru Llanbed

  • Maer, Cyng. Gabrielle Davies

  • Cyng. Elen Page

  • Cyng. Elinor Morgan

  • Cyng. Alan Thomas

  • Cyng. Thian Thomas

  • Clerc y Dref

Pwyllgor Parciau a Blodau

yn cynnwys aelodau cyfetholedig ar gyfer materion Cae Maesyderi

  • (Cadeirydd) Cyng. Rhian Davies

  • Y Maer, Cyng. Gabrielle Davies

  • Dirprwy Faer, Cyng. Helen Thomas

  • Cyng. Alan Thomas

  • Clerc Y Dref

Aelodau cyfetholedig ar gyfer Cae Maesyderi
  • Ivor Williams

  • Maureen Williams

  • Elizabeth James

Pwyllgor Llwybrau Cerdded

  • (Caderiydd) Cyng. Elinor Morgan

  • Y Maer, Cyng. Gabrielle Davies

  • Cyng. Elen Page

  • Cyng. Gary Thorogood

  • Clerc Y Dref

Pwyllgor yr Iaith Gymraeg

  • (Cadeirydd) Cyng. Rhys Bebb-Jones

  • Y Maer, Cyng. Gabrielle Davies

  • Cyng. Ann Bowen Morgan

  • Cyng. Eleri Thomas

  • Clerc Y Dref

Grŵp yr Amgylchedd

  • (Cadeirydd) Cyng. Gary Thorogood

  • Y Maer, Cyng. Gabrielle Davies

  • Cyng. Rhys Bebb Jones

  • Cyng. Eleri Thomas

  • Clerc Y Dref

Pwyllgor Gefeillio Llanbed

(Saint-Germain-sur-Moine, Ffrainc)

  • Cyng, Rhys Bebb Jones

01570 423 880

07814 024 188

[email protected]

Town Clerk’s Office, 7 Treherbert Street, Cwmann, Lampeter, SA48 8EP