Pethau i’w Gwneud

Mae Llanbedr Pont Steffan wedi’i lleoli ar lan yr afon Teifi, sy’n ymdroelli drwy dirwedd dyffryn gwyrdd hardd. Mae wedi’n hamgylchynu gan wlad fryniog wyrdd lle gellir cerdded neu feicio yng nghefn gwlad. Golyga ei lleoliad mai taith fer sydd yna i arfordir Bae Ceredigion sydd yr un mor brydferth. Os am gael rhagor o wybodaeth a rhestr gynhwysfawr o bethau i’w gwneud, ewch i wefan Darganfod Ceredigion.

Cofeb Man Geni Rygbi yng Nghymru

Cydnabyddir yn fyd eang erbyn hyn bod rygbi wedi’i gyflwyno i Gymru gan y Parch. Athro Rowland Williams, a ddaeth yn Is-Brifathro Coleg Dewi Sant yn 1850 ac a chwaraeodd rygbi yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Mae pwysigrwydd Llanbed fel man geni  rygbi yng Nghymru yn cael ei gydnabod gan Undeb Rygbi Cymru. Nodir mewn erthyglau a gedwir yn Archifau’r Brifysgol bod rygbi’n cael ei chwarae yn Llanbed yn yr 1850au.

Cofiwch ymweld â’r gofeb sydd wedi’i lleoli ar Gampws y Brifysgol rhwng y Llyfrgell ac Adeilad Caergaint. Yno cewch ddarganfod mwy am arwyddocâd hanesyddol a chyfraniad Llanbed ym myd rygbi.

Image
Image

Neuadd y Dref: Canolfan Cwiltiau Cymreig

Un o adeiladau amlycaf Llanbed yw Neuadd y Dref, adeilad cofrestredig a arferai fod yn gartref i’r Llys Sirol ac a fu’n gartref i’r Cyngor Tref.

Mae bellach yn gartref i’r Ganolfan Cwilt Cymreig sydd o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn gartref i gasgliad byd enwog o gwiltiau Cymreig. Cynhelir arddangosfeydd amrywiol yn y ganolfan - www.welshquilts.com - ac ar ôl i chi gwblhau eich ymweliad, mae amrywiaeth o anrhegion, crefftau a chwiltiau ar gael yn y siop. Gellir hefyd ymweld â Chaffi a Deli Neuadd y Dref, sydd wedi’i leoli drws nesaf.

Amgueddfa Llambed

Mae’n amgueddfa sy’n codi’r llen ar hanes amrywiol a chyfoethog Llanbed. Lleolir Amgueddfa Llanbed yn yr Hen Borthordy, Stryd y Coleg.

Mae ar agor ar ddyddiau Sadwrn, Mawrth ac Iau rhwng 10 y bore a 4 y prynhawn.

Image
fas fa-walking

Llwybr Treftadaeth Llanbed

Mae’r Llwybr Treftadaeth yn eich tywys ar daith hanesyddol ddifyr oddi amgylch y dref. Cewch ymweld â Chlwb Rygbi Llanbed, un o’r clybiau gwreiddiol a sefydlodd Undeb Rygbi Cymru; y Gofeb Ryfel drawiadol a gynlluniwyd gan Goscombe John; ac mae’n werth ymweld â’r Brifysgol ac Adeilad Dewi Sant. Cewch wybod hefyd am gysylltiadau’r dref â Dylan Thomas â’r ymgais i’w lofruddio yn 1945.

Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant

Sefydlwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a elwid gynt yn Goleg Dewi Sant, ym 1822, gan yr Esgob Burgess o Dyddewi. Derbyniodd ei Siarter Frenhinol ym 1828, a dyma'r Siarter Frenhinol hynaf ynghyd â rhai Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt yng Nghymru a Lloegr. Pan sefydlwyd un Brifysgol ar y cyd gyda Choleg y Drindod, Caerfyrddin a Phrifysgol Fetropolitanaidd Abertawe, daeth cyfle i gynnig ystod eang o gyrsiau traddodiadol a modern, gan gynnwys dysgu o bell ar gyfer ateb y galw am gyrsiau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r cydweithio gyda’r Academi Sinoleg er enghraifft yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddod i wybod mwy am gyfoeth Iaith, Athroniaeth a Diwylliant Tsieineaidd Hynafol.

Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn datblygu prosiect cyffrous Canolfan Tir Glas fydd gobeithio yn dod a mwy o gyfleoedd fyth i ddilyn rhagor o gyrsiau newydd a chyffrous yn Llanbed.

Mae Llyfrgell y Sylfaenwyr, a leolir yn Adeilad Dewi Sant, yn cynnwys casgliad hynod ddiddorol o lyfrau a chynhelir yno amrywiaeth o arddangosfeydd gydol y flwyddyn. Mae’n werth hefyd ymweld â Chapel y Brifysgol, a leolir yn Adeilad Dewi Sant, a rhyfeddu at bensaernïaeth a lliwiau trawiadol y capel.

Mae’r Brifysgol yn falch iawn o groesawu’r gymuned leol i ystod eang o ddigwyddiadau a gynhelir ar y Campws megis yn ddiweddar Sinema Awyr Agored, Cyngerdd Cerddoriaeth o’r Sioeau Cerdd a darlithoedd. Defnyddir y Campws gan y gymuned leol yn lleoliad ar gyfer nifer o ddigwyddiadau allweddol megis Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, Parêd Gŵyl Dewi a Chymdeithas Hanes Llanbed. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig llety i ymwelwyr ac yn lleoliad poblogaidd i gynnal cynadleddau a phriodasau.

Mae tiroedd y Campws wedi’u tirlunio ac yn cynnig teithiau cerdded er lles iechyd sy’n cynnwys taith gerdded ar hyd glannau’r Afon Ddulas i Gapel Brondeifi.

Image
Image

Ystâd Llanerchaeron

Mae’r ystad fonedd Gymreig hon o’r 18fed ganrif, gyda’i thŷ, gerddi muriog a fferm y plas, wedi eu cynllunio a’u hadeiladu gan John Nash, bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ganddi lawer o nodweddion gwreiddiol gan gynnwys clos gwasanaethau gyda llaethdy, golchdy, bragdy a thŷ halltu. Mae tua 20 munud i ffwrdd mewn car ac mae’r bws 40 o Lambed yn pasio’n agos.

Mae Ystâd Llanerchaeron tua 10 milltir i’r gorllewin o Lanbed ar ffordd yr A482 rhwng Llanbed ac Aberaeron. Mae’r ystâd Gymreig yn dyddio o’r 18fed ganrif ac yn enwog am ei gerddi muriog, ei fferm draddodiadol a’r plasty wedi’i dylunio a’i hadeiladu gan John Nash. Mae bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cynnig y cyfle i ymwelwyr gael blas o fywyd bonheddig a bywyd y gweision a’r morynion. Perthyn nifer o nodweddion hynod i’r ystâd yn cynnwys clôs mewnol sy’n cynnig gwasanaethau megis llaethdy, golchdy, bragdy a thŷ halltu. Taith o tua 20 munud yw Llanerchaeron o Lanbed mewn cerbyd - os nad oes gennych gerbyd, mae gwasanaeth bws cyhoeddus y T1 yn pasio o fewn rhyw filltir i fynedfa Llanerchaeron.

Mwyngloddiau Dolaucothi

Ymwelwch â Mwyngloddiau Aur Dolaucothi ger Pumsaint, a weithiwyd o gyfnod y Rhufeiniaid neu’n gynt hyd yr 20fed ganrif. Cewch deithiau tywys o’r gweithfeydd tanddaearol a throeon gwych yn Nyffryn Cothi hardd. Dim ond 15 munud mewn car o Lambed.

Mae Mwyngloddiau Aur Dolaucothi ym Mhumsaint sydd tua 9 milltir i’r de ddwyrain o Lanbed ar ffordd yr A482. Dyma’r unig Fwynglawdd Aur o gyfnod y Rhufeiniaid y gwyddom amdano yng Ngwledydd Prydain ac ’roedd yn weithredol o gyfnodau hynafol hyd yr 20fed ganrif pryd daeth y cloddio i ben. Gall ymwelwyr roi cynnig ar badellu am aur ac mae croeso iddynt ymweld â'r arddangosfa. Os hoffech ymweliad tan ddaear, yna byddwch angen archebu taith dywys ymlaen llaw. Mae yna deithiau cerdded bendigedig yn harddwch Dyffryn Cothi a gellir teithio oddi yma i ymweld â chronfa ddŵr Llyn Brianne a gwarchodfa'r Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar yng Ngwenffrwd-Dinas.

Image
Image

Bae Ceredigion

Mae Llanbedr Pont Steffan yn leoliad delfrydol i ymweld a mwynhau arfordir hardd ac enwog Bae Ceredigion. Yno cewch draethau glân trawiadol yn rhan o arfordir o harddwch naturiol eithriadol. Ceir llwybrau credded ar hyd y rhan fwyaf o’r arfodir sy’n cynnig cyfle i ryfeddu at olygfeydd godidog Bae Ceredigion. Os am wybod ychwaneg am Llwybr Arfordir Ceredigion, ewch i www.llwybrarfordircymru.gov.uk

Cerdded a Rhedeg

Mae Llanbedr Pont Steffan hefyd yn lleoliad cyfleus i gael mynediad i'r rhwydwaith eang o deithiau cerdded gwledig, yn llwybrau troed, llwybrau ceffylau neu ar hyd ffyrdd tawel. Mae'r rhain yn arwain yr ymwelydd at lynnoedd, at lannau afonydd hardd, bryngaerau hynafol ac at feini hirion. Gellir prynu Mapiau Arolwg Ordnans sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am nifer o lwybrau’r ardal. Mae’r llyfr, Llwybrau Llanbed, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cerddwyr Cangen Llanbed, yn awgrymu teithiau cerdded diddorol yn yr ardal. Mae copi ar gael yn Llyfrgell Gyhoeddus Llanbed

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu gwybodaeth am y llwybr troed rhwng Llanbedr Pont Steffan ag Aberaeron (11 milltir) ar hyd prydferthwch Dyffryn Aeron. Darperir gwybodaeth hefyd am deithiau cerdded yn ardal Llanbedr Pont Steffan megis Caer Alltgoch sy’n dyddio o’r Oes Haearn. Mae ymweliad â Choetir Cymunedol Longwood, ar gyrion y dref, yn darparu rhwydwaith o lwybrau troed trwy'r coetiroedd sy’n i’w gweld o’r dref. Ceir ychwaneg o wybodaeth yn www.longwood-lampeter.org.uk/community/ 

Image
Image

Seiclo

Cewch lawer o gyfleoedd i feicio yn ardal tref Llanbed.  Mae gennym filltiroedd o ffyrdd tawel ac ’rydym yn lleoliad cyfleus i gyrraedd y rhwydwaith o lwybrau beicio mynydd cyffrous sydd yng Nghoedwig Brechfa ac ar hyd Llwybr Beicio Ystwyth. Gellir ymuno yn lleol â'r teithiau beicio wythnosol a drefnir gan Glwb Rhedeg a Beicio Sarn Helen. Codir ffi am rhai teithiau tra bod eraill yn rhad ac am ddim ac yn gyfle i ddod i adnabod nifer o lwybrau beicio lleol.

Coedwig Brechfa: maent yn cynnig teithiau cerdded amrywiol a llwybrau beicio mynydd ar gyfer gwahanol oedran, profiad a gallu.

Llwybr Ystwyth: llwybr beicio 32.1 cilomedr o hyd rhwng Tregaron ac Aberystwyth.

Bwlch Nant yr Arian: cyfres o deithiau cerdded a llwybrau beicio mynydd, yn enwedig Llwybr y Barcud sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau.

Parc yr Orsedd

Sefydlwyd Meini’r Orsedd yn 1984 o ganlyniad i Eisteddfod Genedlaethol Cymru gael ei chynnal yn Llanbedr Pont Steffan. Mae’n dynodi’r cysylltiadau a geir rhwng beirdd a cherddorion y gorffennol a rhai heddiw ynghyd â'r derwyddon sy’n gysylltiedig â’r Orsedd ar hyd y canrifoedd.

Mae Parc yr Orsedd yn faes chwarae croesawgar i blant, rhieni a theuluoedd sy’n cynnig ardal chwarae a wal ddringo. Mae croeso i ymwelwyr ddefnyddio’r cyfleusterau i fwynhau picnic neu ddefnyddio'r offer ymarfer corff sy’n addas i’w defnyddio gan ymwelwyr o bob oedran.

Image

01570 423 880

07814 024 188

[email protected]

Town Clerk’s Office, 7 Treherbert Street, Cwmann, Lampeter, SA48 8EP

We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.