Croeso i

Lanbedr Pont Steffan (Llanbed)

Tref

Farchnad

Hanesyddol

Man geni

addysg uwch

yng Nghymru

Cyngor Tref Llanbed

Mae Llanbedr Pont Steffan yn hanesyddol yn dref farchnad draddodiadol, gyda chysylltiadau agos â’r gymuned wledig a Choleg Dewi Sant (heddiw yn Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant).

Bu yn y gorffennol yn fan aros pwysig i borthmyn a theithwyr, wrth iddynt deithio o'r arfordir a Mynyddoedd y Cambria (Mynyddoedd Elenydd) ar eu teithiau i bedwar ban byd. Mae’n dref sydd heddiw yn gyrchfan aros poblogaidd i ymwelwyr â Cheredigion. Mae’n gyfle i ymwelwyr fel y trigolion fwynhau’r amrywiaeth o siopau a chaffis annibynnol sy’n gwerthu ystod eang o nwyddau ac yn cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf.

Mae ei lleoliad yng nghanol Dyffryn Teifi, Ceredigion, Cymru, yn dod â llawer o fanteision i’r dref a’r ardal. Cewch y dirwedd amaethyddol lewyrchus, lleoliad hardd, croesawgar a diogel i fyw ac yn lleoliad cyfleus rhwng Gogledd, Canolbarth a De Cymru a thros y ffin yn Lloegr. Mae’n dref sy’n cynnig digon o le i weithio, i astudio ac i hamddena trwy weithgareddau'r amrywiol glybiau, sefydliadau a mudiadau sydd yn y dref.

Nid yw’n dref fawr ei maint gyda phoblogaeth o 2,504 (Cyfrifiad 2021). Mae ganddi galon fawr ac mae ei thrigolion yn ymfalchïo mewn bod yn gymuned glos a chynnes sy’n barod i groesawu pob un sy’n penderfynu ymweld neu’n ymgartrefu yn Llanbed.

Y dref yw cartref Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sefydlwyd dros 200 mlynedd yn ôl ac yn fan geni addysg uwch yng Nghymru. Dyma gartref Clwb Rygbi Llanbed a man geni rygbi yng Nghymru ac un o sylfaenwyr Undeb Rygbi Cymru. Dyma gartref Canolfan Cwiltiau Cymru, y Ganolfan Llesiant gyntaf yng Ngheredigion, Ysgol Uwchradd a Chynradd Bro Pedr, Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed a Phapur Bro Clonc a gwefan Clonc360.

Mae’n dref ddiwylliannol bwysig ac yn ymfalchïo yn ei Chymreictod a bod y Gymraeg yn rhan annatod o’i bywyd cymunedol. Y Gymraeg yw iaith y dref o ddydd i ddydd ac iaith nifer o glybiau, sefydliadau a mudiadau’r dref. 
Mae Llanbed wedi datblygu i fod yn dref gynhwysol a chosmopolitaidd sy’n barod i groesawu pawb sy’n penderfynu ymweld ag am fyw yn y dref. Syniadau a phrofiadau trigolion ac ymwelwyr â’r dref sy’n ei siapio a’i chyfoethogi heddiw.

01570 423 880

07814 024 188

[email protected]

Town Clerk’s Office, 7 Treherbert Street, Cwmann, Lampeter, SA48 8EP

We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.