Digwyddiadau
Cynhelir ystod o eang o ddigwyddiadau blynyddol yn Llanbed ac mae nifer ohonynt wedi eu rhestru yn ein calendr ac ar Calendr360. Mae Llanbed yn awyddus i sefydlu a chefnogi digwyddiadau newydd a’i nodi yn y calendrau.Os ydych yn cynllunio digwyddiad cofiwch ddefnyddio @carullanbed yn eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i’w hyrwyddo.
Mae croeso i chi hefyd ddefnyddio dolen Caru Llanbed i gysylltu gyda’r Cyngor Tref fel y caiff eich digwyddiad ei nodi yn y calendr.
Gŵyl Gwrw a Seidr Llanbed
Chwefror
Trefnir gan dîm o wirfoddolwyr lleol ac fe’i cynhelir ar Gampws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’n gyfle i flasu a mwynhau dewis eang o gwrw a seidr lleol a rhanbarthol o Gymru.
Parêd Dydd Gŵyl Dewi
Mawrth
1af o Fawrth yw Dydd Gŵyl Dewi, Nawddsant Cymru. Mae'r dref yn dathlu gyda gorymdaith draddodiadol a lliwgar ynghyd â gweithgareddau eraill i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Sioe Amaethyddol Llambed
Gorffennaf
Dyma sioe boblogaidd iawn sy’n arddangos y gorau o’r hyn sydd gan y gymuned amaethyddol i’w chynnig. Cynhelir y Sioe Amaethyddol ar gaeau Fferm Pontfaen yn Llanbed ac ymhlith yr atyniadau mae amrywiaeth o stondinau crefftau, bwyd a busnesau amaethyddol ynghyd â chystadlaethau sy’n cynnwys dosbarthiadau ceffylau, defaid a gwartheg.
Gŵyl Fwyd Llanbed
Gorffennaf
Mae’r Ŵyl Fwyd blaenllaw hon yn denu busnesau ac ymwelwyr o bell ac agos i Lanbed. Os ydych yn mwynhau blasu pob math o fwydydd a diodydd, ac am gyfle i gyfarfod â gwneuthurwyr a chynhyrchwyr Cymreig, yna mae'n rhaid i chi ymweld â Gŵyl Fwyd Llanbed. Fe’i cynhelir yn flynyddol yng Ngorffennaf ar Gampws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Daw â’r gorau yn lleol ac o sawl ardal yng Nghymru i Lanbed ac mae’n gyfle i’w blasu a’i phrynu.
Carnifal Llanbed
Awst
Mae’r Carnifal yn ddigwyddiad ar gyfer pob oedran ac i’r teulu cyfan. Gellir ymuno yng ngorymdaith y carnifal drwy’r dref a mwynhau diwrnod sy’n llawn yn hwyl. Trefnir gan dîm o wirfoddolwyr yn flynyddol yn Awst.
Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen
Awst
Cynhaliwyd y digwyddiad diwylliannol yma’n flynyddol ers dros hanner canrif. Mae’n dathlu ein hiaith, ein diwylliant, ein treftadaeth â’n Cymreictod. Mae’n gyfle perffaith i fwynhau amrywiaeth o berfformiadau gan gantorion, cerddorion, llefarwyr a beirdd amryddawn yn lleol a thu hwnt. Trefnir gan dîm o wirfoddolwyr yn flynyddol yn Awst.
Dathliadau’r Nadolig
Tachwedd a Rhagfyr
Cynhelir Ffair Nadolig ar Gampws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’n gyfle i’r Brifysgol a’r Dref ddod ynghyd ac fe’i trefnir gan staff y Brifysgol a gwirfoddolwyr o’r dref yn cynnwys aelodau o’r Cyngor Tref ac o Siambr Fasnach Llanbed.
Cynhelir gwasanaeth Plygain traddodiadol yn flynyddol fel arfer yng Nghapel Dewi Sant ar Gampws Llambed y Drindod Dewi Sant.
Noson Siopa’r Nadolig
Tachwedd a Rhagfyr
Daw naws y Nadolig i Lanbed wrth i siopau a busnesau’r dref agor eu drysau yn hwyr gyda’r nos. Mae croeso i bawb siopa, cwrdd â ffrindiau a hyd yn oed ymweld â groto Siôn Corn, ar noson hyfryd o siopa ac adloniant. Mae tref Llanbed yn edrych yn Nadoligaidd iawn gyda’r holl Oleuadau Nadolig, y Goeden Nadolig mawr a’r Coed Nadolig bach yn addurno’r dref.
Marchnad Llanbed
Bob Mis
Cynhelir ar yr 2il a’r 4ydd dydd Sadwrn o bob mis rhwng 10am i 1pm ar Gampws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae'r farchnad yn cynnig y cyfle yn fisol i brynu amrywiaeth o gynhyrchion gan gyflenwyr a chrefftwyr lleol, i gwrdd â chyfeillion a mwynhau paned o de neu goffi wrth wrando ar gerddoriaeth gam gerddorion lleol.
List your event here
If you would like your event listed here, provided it is within the Lampeter Town Council area, please submit your request using this form.
CY
EN 